Ardal an-fetropolitan yn Norfolk, Dwyrain Lloegr, yw Ardal Broadland (Saesneg: Broadland District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 552 km², gyda 129,464 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Ardal Breckland i'r gorllewin, Ardal Gogledd Norfolk i'r gogledd, Bwrdeistref Great Yarmouth i'r dwyrain, a Dinas Norwich ac Ardal De Norfolk i'r de.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir Ardal Broadland yn 65 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn Thorpe St Andrew. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Acle, Aylsham a Reepham.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!