Ffisegydd a mathemategydd o Ffrainc oedd André-Marie Ampère (20 Ionawr 1775 – 10 Mehefin 1836)[1][2] a arloesodd maes electromagneteg. Enwir yr uned SI am gerrynt trydanol, yr amper, ar ei ôl.