Ffeminist Americanaidd oedd Alice Paul (11 Ionawr 1885 - 9 Gorffennaf 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithegydd a arbenigai mewn hawliau merched, ac fel swffragét.
Cafodd Alice Stokes Paul ei geni yn Mount Laurel, New Jersey ar 11 Ionawr 1885; bu farw yn Moorestown Township, New Jersey. Hi oedd yr hynaf o bedwar o blant William Mickle Paul I (1850–1902) a Tacie Paul (g. Parry), ac roedd yn ddisgynnydd i William Penn, sefydlydd y Crynwyr yn Pennsylvania.[1][2][3]
Roedd Paul yn un o brif arweinwyr a strategwyr yr ymgyrch dros ddiwygio'r bedwaredd diwygiad ar bymtheg o Gyfansoddiad yr UDA, sydd bellach yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhyw yn yr hawl i bleidleisio. Cynlluniodd Paul, ynghyd â Lucy Burns ac eraill, ddigwyddiadau strategol megis Gorymdaith Etholfraint y Menywod (Woman Suffrage Procession) a'r Gwyliedydd Tawel (the Silent Sentinels), a oedd yn rhan o'r ymgyrch lwyddiannus a arweiniodd at dderbyn y gwelliant yn 1920.
Ar ôl 1920, treuliodd Paul hanner canrif fel arweinydd Plaid Genedlaethol y Menywod, a ymladdodd dros y Gwelliant (Hawliau Cyfartal) neu Equal Rights Amendment, a ysgrifennwyd gan Paul a Crystal Eastman, i sicrhau cydraddoldeb cyfansoddiadol i fenywod. Enillodd gryn lwyddiant gyda chynnwys menywod fel grŵp a ddiogelwyd yn erbyn gwahaniaethu gan Ddeddf Hawliau Sifil 1964.
Cafodd ei magu yn nhraddodiad y Crynnwyr - traddodiad a oedd yn rhoi gwasanaethu'r cyhoedd yn flaenoriaeth; roedd ei hynafiaid yn aelodau o Bwyllgor Gohebiaeth Newydd Jersey (New Jersey Committee of Correspondence) yn y 19g. Dysgodd Alice am etholfraint gan ei mam, a oedd yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol Menywod America (NAWSA). Weithiau byddai Paul yn ymuno â'i mam i yng nghyfarfodydd y swffragétiaid.
Aelodaeth
Bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd, Silent Sentinels, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
[4][5]
Anrhydeddau
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1979), Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut (1994), Hall of Fame Menywod New Jersey, Neuadd Enwogion New Jersey, Medal y Swffragét[6][7] .
Cyfeiriadau