Alf Morgans |
---|
|
Ganwyd | 17 Chwefror 1850 Machen |
---|
Bu farw | 10 Awst 1933 South Perth |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru Awstralia |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd, buddsoddwr |
---|
Swydd | Prif Weinidog Gorllewin Awstralia, Aelod o Gynulliad Deddfwriaethol Gorllewin Awstralia |
---|
Roedd Alfred Edward Morgans (17 Chwefror 1850 - 10 Awst 1933) yn Gymro a wasanaethodd fel pedwerydd Prif Weinidog Gorllewin Awstralia, gan wasanaethu am ychydig dros fis, o 21 Tachwedd i 23 Rhagfyr 1901.[1]
Bywyd a gyrfa gynnar
Ganwyd Alf Morgans yn yr Ochr Chwith, Machen, Sir Fynwy. Fe'i haddysgwyd mewn ysgolion preifat ac yna mynychodd Ysgol Mwyngloddiau Bryste.[2] Ar ôl cwblhau ei astudiaethau, cafodd brentisiaeth i gwmni peirianneg fecanyddol yng Nglynebwy.
Ar 19 Mawrth 1872, priododd Fanny Ridler yng Nghaerloyw. Ym 1878, anfonodd cyflogwyr Morgans ef i Fecsico i oruchwylio eu mwyngloddiau aur ac arian. Bu'n gweithio yng Nghanol America am gyfnod o 18 mlynedd, yn cynrychioli buddsoddiadau Prydeinig mewn mwyngloddio a rheilffyrdd, yn enwedig yn Gwatemala a Nicaragwa, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe ddysgodd siarad Sbaeneg yn rhugl, a datblygodd ddiddordeb mewn archeoleg Astec a Maya ac anfonodd arteffactau i amgueddfeydd ym Mhrydain.[3]
Cyrhaeddodd Morgans Albany, Gorllewin Awstralia ar RMS Himalaya o Lundain ar 18 Mawrth 1896, fel cynrychiolydd Morgans Syndicate Ltd i archwilio eiddo mwyngloddio i fuddsoddwyr yn Llundain a oedd yn chwilio am gyfleoedd buddsoddi cadarn. Caffaelodd ar nifer o fuddiannau eiddo a mwyngloddio ledled y wladwriaeth, gan gynnwys Westralia Mount Morgans,[4] ac ystyrir ef, yn gyffredinol, yn awdurdod blaenllaw ar fuddsoddiadau mwyngloddio.[5][6]
Gyrfa wleidyddol
Ar 4 Mai 1897 etholwyd Morgans i sedd Cynulliad Deddfwriaethol Coolgardie.
Yn y senedd, roedd yn gefnogwr i'r Prif Weinidog Syr John Forrest. Wedi i Forrest ymddiswyddo o wleidyddiaeth y wladwriaeth, bu cyn cefnogwyr Forrest yn parhau i gydweithio; cyfeiriwyd at y grŵp fel y ministerialists. Ym mis Tachwedd 1901, fe wnaeth y gweinidogion drechu olynydd Forrest i'r arweinyddiaeth, George Leake, ar bleidlais diffyg hyder, ac fe'i gorfodwyd i ymddiswyddo. Fodd bynnag, ni allent gytuno ar enwebai ar gyfer olynydd iddo. Gwahoddodd y llywodraethwr Frederick Henry Piesse i lunio llywodraeth ond ni allai gael digon o gefnogaeth.[7]
Yn y pen draw, cytunodd y ministerialists ar Morgans fel ymgeisydd cyfaddawd, a chymerodd swydd Prif Weinidog a Thrysorydd Trefedigaethol ar 21 Tachwedd 1901, er nad oedd ganddo unrhyw brofiad blaenorol o wasanaethu fel gweinidog.
Cyn 1947, roedd yn ofynnol i weinidogion a oedd newydd eu penodi ymddiswyddo a sefyll ar gyfer eu hailethol. Yn yr isetholiad gweinidogol dilynol i godi Morgans yn Brif Weinidog, roedd cefnogwyr Leake yn sefyll yn erbyn y cabinet newydd ei benodi gan Morgans, a chafodd tri o'r chwe gweinidog newydd eu trechu. Heb obaith ffurfio llywodraeth gofynnodd Morgans i Lywodraethwr y dalaith i ddiddymu'r Cynulliad a galw etholiad cyffredinol, ond gwrthodwyd y cais. Ymddiswyddodd Morgans fel Prif Weinidog ar 23 Rhagfyr 1901, ac ail benodwyd Leake, y tro hwn gyda chefnogaeth glir. Ni safodd Morgans yn yr etholiad deddfwrfa ddilynol.[1][
Gyrfa ddiweddarach
Roedd bywyd Alf Morgans ar ôl gwleidyddiaeth yn cynnwys nifer o apwyntiadau consylaidd yng Ngorllewin Awstralia. O 1910 i 1917, roedd yn Gonswl Awstria-Hwngari yng Ngorllewin Awstralia; Ym 1915 bu'n Is-gonswl i Sbaen hefyd. Ym 1921 penodwyd ef yn Asiant Consylaidd yn Perth a Fremantle dros Unol Daleithiau America, gan aros yn y swydd tan 1930, pan ymddiswyddodd oherwydd afiechyd.[8]
Bu farw ar 10 Awst 1933 yn Ne Perth yng Ngorllewin Awstralia.[9]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 G. C. Bolton, 'Morgans, Alfred Edward (1850–1933)', Australian Dictionary of Biography, National Centre of Biography, Australian National University cyhoeddwyd ar glawr 1986, adalwyd ar lein 25 Hydref 2018
- ↑ West Somerset Mineral Railway Association - Alfred Morgans adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ Constitutional Centre - Alfred Edward Morgans (Ministerialist) adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ Mount Morgans Western Australia adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Awstralia, Papurau ar lein Western Mail (Perth, WA : 1885 - 1954) Fri 27 Mar 1896 Page 20 SHIPPING NOTES adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Awstralia, Papurau ar lein The Inquirer and Commercial News (Perth, WA : 1855 - 1901) Fri 27 Mar 1896 Page 1 GENERAL NEWS adalwyd 25 Hydref 2018] adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ Llywodraeth Gorllewin Awstralia Morgans, Alfred Edward - MP Biographical Register adalwyd 24 Hydref 2018
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Awstralia, Papurau ar lein The West Australian (Perth, WA : 1879 - 1954) Mon 3 Jul 1933 Page 8 LEARNING TO KNOW THE STATE
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Awstralia, Papurau ar lein The West Australian (Perth, WA : 1879 - 1954) Sat 12 Aug 1933 Page 14 MR. A. E. MORGANS adalwyd 25 Hydref 2018