Mae Aldi yn archfarchnad sydd a'i gwreiddiau yn yr Almaen ac sydd â phresenoldeb bellach yn y rhan fwyaf o wledydd yr Undeb Ewropeaidd. Mae yna siopau Aldi hef
| Delwedd:AldiNord-WorldwideLogo.svg, Aldi Süd 2017 logo.svg | |
Math | cadwyn o archfarchnadoedd |
|---|---|
| Diwydiant | manwerthu, Tŷ disgownt |
| Sefydlwyd | 1946 |
| Sefydlydd | Karl Albrecht, Theo Albrecht |
| Pencadlys | Essen |
| Perchnogion | Karl Albrecht, Theo Albrecht |
| Gwefan | https://www.aldi.com, https://www.aldi.dk/, https://www.aldi.es, https://store.aldi.com.au/, https://www.aldi.it/, https://aldi.de/ |





Mae Aldi yn archfarchnad sydd a'i gwreiddiau yn yr Almaen ac sydd â phresenoldeb bellach yn y rhan fwyaf o wledydd yr Undeb Ewropeaidd. Mae yna siopau Aldi hefyd yn Awstralia a'r Unol Daleithiau. Mae o leiaf un siop Aldi yn y mwyafrif o drefi a phentrefi'r Almaen. Mae tua 4,100 o siopau Aldi yn yr Almaen a thua 7,600 ledled y byd. Daw enw'r cwmni o lythrennau cyntaf y geiriau ALbrecht-DIskont (Disgownt Albrecht).
Prif fusnes y cwmni yw adwerthu bwyd ond mae hefyd yn gwerthu nwyddau eraill ar adegau.

Cafodd y cwmni ei sefydlu ym 1913 fel busnes groser teuluol yn Essengan Anna Albrech. Ym 1946 daeth y brodyr Karl Albrecht (1920 - 2014) a Theo Albrecht (1922 -2010) yn berchenogion y busnes trwy ei hetifeddu gan eu mam. Y brodyr Albrecht oedd y cyntaf i sefydlu siopau disgownt yn yr Almaen trwy gael ystod gyfyngedig o nwyddau yn eu siopau. Mae'r rhan fwyaf o'r nwyddau sy'n cael eu gwerthu yn y siopau yn rhai "brand eu hunain", ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd eraill dydy labeli'r nwyddau ddim yn ymddangos fel eu bod yn berchen i'r siop yn y modd y mae brandiau megis "Asda Smart Price" neu "Tesco Finest" yn gwneud; er enghraifft mae sglodion tatws Aldi yn cael eu gwerthu gyda'r enw Champion Chips[1] yng Nghymru a Lloegr, gan roi'r argraff eu bod yn sglodion brand annibynnol yn hytrach na brand y siop.
Ym 1960 bu anghydfod rhwng y brodyr parthed gwerthu sigarennau a chafodd y cwmni ei rannu'n ddwy, Aldi Nord (Aldi'r Gogledd) o dan reolaeth Theo, ac Aldi Sud (Aldi'r De) o dan reolaeth Karl.
| Gwlad | Enw | Grŵp Aldi | Ers | Allfeydd |
|---|---|---|---|---|
| Aldi | Nord | 1946 | 2,400 | |
| Aldi | Süd | 1946 | 1,790[2] | |
| Aldi | Süd | 2001 | 311[3] | |
| Hofer | Süd | 1968 | 430[2] | |
| Aldi | Nord | 1973 | 380 | |
| Aldi | Nord | 1977 | 244 | |
| Aldi | Nord | 1988 | 680 | |
| Aldi | Süd | 2008 | 75 [4] | |
| Aldi | Süd | 1998 | 105 | |
| Aldi | Nord | 1990 | 12 | |
| Aldi | Nord | 1975 | 406 | |
| Aldi | Nord | 2008 | 72 | |
| Aldi | Nord | 2006 | 36 | |
| Hofer | Süd | 2005 | 71 | |
| Aldi | Nord | 2002 | 250 [5] | |
| Aldi Suisse | Süd | 2005 | 130[2] | |
| Aldi | Süd | 1989 | 500[6] | |
| Aldi | Süd | 1976 | 1,200[7] | |
| Trader Joe's | Nord | 1979 | 399 | |
| cyfanswm nifer siopau Aldi Nord | 4,805 | |||
| cyfanswm nifer siopau Aldi Süd | 4,430 | |||
| cyfanswm cyfunol o siopau Aldi | 9,235 | |||
Agorodd Aldi ei siop gyntaf ym Mhrydain Fawr ym 1990 gan gynyddu'r nifer i 500 erbyn 2013, erbyn hyn mae gan y cwmni tua 4.7% o gyfran y farchnad ym Mhrydain. Er ddechrau fel siop rad mae'r cwmni bellach wedi dechrau agor siopau mewn lleoliadau cefnog megis Knutsford a Bury St Edmunds ac wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o'r bobl o ddosbarthiadau cymdeithasol AB sydd yn defnyddio'r siopau (tua 20% ym mis Orffennaf 2014) wedi newid ei stoc i ddarparu ar eu cyfer.[8]
|deadurl= ignored (help)
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.