Chwaraewr rygbi'r undeb a'r gynghrair a chricedwr o Gymro oedd Alan Henry Morgan Rees (17 Chwefror 1938 – 17 Mawrth 2022) a fu'n aelod o dîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru ym 1962, tîm rygbi'r gynghrair Leeds o 1962 i 1965, a thîm criced Morgannwg o 1955 i 1971.
Ganed ef ym Mhort Talbot. Priododd Alan Rees â Val Hill ym 1962, a chawsant ddwy ferch.[1]
Cyfeiriadau