Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd.
Achos llys ynghylch sylw a gyhoeddwyd ar wefan Twitter yn 2010 oedd achos Paul Chambers neu achos jôc Twitter.
Yn ystod gaeaf 2009–2010, aflonyddodd tywydd oer fywyd ar draws gogledd Lloegr. Roedd Maes Awyr Robin Hood yn un o nifer o feysydd awyr a wnaeth ganslo ehediadau. Ar 6 Ionawr 2010,[1] postiodd Paul Chambers neges ar Twitter:
Crap! Robin Hood airport is closed. You've got a week and a bit to get your shit together otherwise I'm blowing the airport sky high!![2]
Cafodd ei arestio wrth ei waith mewn swyddfa gan heddlu gwrth-derfysgaeth wythnos yn ddiweddarach,[1]
am wneud bygythiad o fomio,[2] wedi i reolwr o'r maes awyr nad oedd ar ddyletswydd canfod y neges wrth wneud chwiliad ar-lein.[1] Atafaelwyd ei ffôn symudol, ei liniadur, a'i ddisgyrrwr caled yn ystod chwiliad o'i dŷ.[2] Cafodd ei gyhuddo o "ddanfon neges electronig gyhoeddus sy'n anferthol o dramgwyddus neu o gymeriad anweddus, anllad neu fygythiol yn groes i Ddeddf Cyfathrebu 2003".[1][3] Ar 10 Mai, cafwyd yn euog gan lys ynadon Doncaster[1] a gorchmynnwyd iddo dalu £1,000 mewn dirwyon a chostau.[2] Collodd ei swydd o ganlyniad.[2]
Mae nifer wedi condemnio'r dyfarniad a'i alw'n annheg,[4][5][6] ac eraill wedi ei alw'n enghraifft o gamwedd cyfiawnder.[7]
Collodd Chambers apêl yn erbyn y dyfarniad yn Nhachwedd 2010. Clywodd y Barnwraig Jacqueline Davies ei apêl yn Llys y Goron, Doncaster; dywedodd bod y neges yn cynnwys "bygythiad" (menace) a rhaid bod Chambers wedi sylweddoli y byddai'r neges yn cael ei hystyried o ddifrif.[8] Ymatebodd miloedd o ddefnyddwyr Twitter trwy ail-bostio neges Chambers gan gynnwys y hashnod #iamspartacus, gan gyfeirio at y ffilm Spartacus.[9][10]
Ar 8 Chwefror 2012, ymddangosodd Chambers yn yr Uchel Lys Barn i ofyn i'r barnwyr wrthdroi'r dyfarniad.[11]
Cynigodd y cyflwynydd teledu Stephen Fry i dalu costau cyfreithiol Chambers.[12][13]