Achos llys ynghylch sylwadau a gyhoeddwyd ar wefan Twitter yn 2012 oedd achos Liam Stacey.
Ar 17 Mawrth 2012 cwympodd y pêl-droediwr du Fabrice Muamba wedi iddo gael ataliad ar ei galon mewn gêm rhwng ei glwb Bolton Wanderers a Tottenham Hotspur. Wrth i'r gêm gael ei darlledu'n fyw ar y teledu, bu niferoedd mawr o bobl yn cyhoeddi dymuniadau da a gweddïau iddo ar Twitter a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol eraill.
Cafodd Liam Stacey, myfyriwr bioleg 21 oed o Bontypridd sy'n mynychu Prifysgol Abertawe, ei arestio wedi i ddefnyddwyr eraill Twitter ar draws Prydain gwyno i'r heddlu am "sylwadau ffiaidd â chymhelliad hiliol" am Muamba a bostiodd ar y wefan. Ar 19 Mawrth plediodd Stacey yn euog i drosedd o dan y drefn gyhoeddus gerbron Llys Ynadon Abertawe, a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod na fyddai'n mynd ar wefannau cymdeithasol tan iddo gael ei ddedfrydu yr wythnos nesaf. Clywodd y llys i Stacey honni yn wreiddiol bod rhywun wedi hacio ei gyfrif ar y wefan a phostio'r negeseuon dan sylw cyn iddo geisio dileu'r dudalen. Dywedodd Stacey ei fod wedi meddwi tra'n gwylio gêm derfynol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng timoedd rygbi Cymru a Ffrainc.[1]
Ar 27 Mawrth cafodd Stacey ei ddedfrydu i garchar am 56 niwrnod. Cyhoeddodd Prifysgol Abertawe ddatganiad a ddywedodd bod Stacey "yn dal wedi ei wahardd o'r Brifysgol tan y bydd ein camau disgyblu ni wedi eu cwblhau".[2] Ar 30 Mawrth collodd Stacey ei apêl yn erbyn y dyfarniad yn Uchel Lys Abertawe.[3] Cafodd ei ryddhau ar ôl 28 diwrnod ac ymddiheuriodd yn gyhoeddus am yr hyn a wnaeth.[4] Gwaharddwyd Stacey o gampws Prifysgol Abertawe ond penderfynodd gwrandawiad disgyblu y bydd yn cael sefyll arholiad terfynol "fel ymgeisydd allanol mewn lleoliad arall" y flwyddyn nesaf, gyda'r cyfle i raddio in absentia.[5]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau