Mae Zoolander 2 (a adnabyddir hefyd fel Zoolander No. 2 a 2oolander) yn ffilm gomedi 2016 Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Ben Stiller ac ysgrifen
Poster sinema'r ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Ben Stiller |
| Cynhyrchydd | Stuart Cornfeld Ben Stiller Scott Rudin Clayton Townsend |
| Ysgrifennwr | Ysgrifennwyd gan: Ben Stiller John Hamburg Nicholas Stoller Justin Theroux Seiliwyd ar: Cymeriadau a greodd gan Drake Sather Ben Stiller |
| Serennu | Ben Stiller Owen Wilson Will Ferrell Penélope Cruz Kristen Wiig Fred Armisen |
| Cerddoriaeth | Theodore Shapiro |
| Sinematograffeg | Dan Mindel |
| Golygydd | Greg Hayden |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Red Hour Productions Scott Rudin Productions |
| Dyddiad rhyddhau | 12 Chwefror 2016 Dosbarthwyr Paramount Pictures |
| Amser rhedeg | 102 munud[1] |
| Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Mae Zoolander 2 (a adnabyddir hefyd fel Zoolander No. 2 a 2oolander) yn ffilm gomedi 2016 Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Ben Stiller ac ysgrifennwyd gan John Hamburg, Justin Theroux, Stiller, a Nick Stoller. Hon yw'r dilyniant i'r ffilm 2001 Zoolander a serenna, Owen Wilson, Will Ferrell, Penélope Cruz, Kristen Wiig a Fred Armisen yn y ffilm. Fe'i ffilmiwyd o fis Ebrill i fis Gorffennaf 2015 yn Rhufain, yr Eidal. Rhyddhawyd y ffilm ar 12 Chwefror, 2016 gan Paramount Pictures.
Rhyddhawyd Zoolander 2 mewn sinemâu ar 12 Chwefror, 2016.[11] Cynhaliwyd premiere y byd yn Llundain, Lloeger ar 6 Chwefror, 2016, a chynhaliwyd y premiere Gogledd America yn Ninas Efrog Newydd ar 9 Chwefror, 2016. Yn ystod y premiere yn Llundain, gosododd Stiller Record y Byd Guinness newydd ar gyfer y ffon hun-lun hiraf, yn 8.56 metr.[12]
Derbyniodd Zoolander 2 adolygiadau negyddol gan feirniaid. Ar Rotten Tomatoes, mae gan y ffilm radd o 23%, a seiliwyd 179 adolygiad, gyda gradd gyfartal o 4.5/10. Disgrifia'r wefan y ffilm fel, "Zoolander No. 2 has more celebrity cameos than laughs – and its meager handful of memorable gags outnumbers the few worthwhile ideas discernible in its scattershot rehash of a script."[13] Ar Metacritic, sgoriodd y ffilm 34 allan o 100, a seiliwyd ar 42 o feirniaid, gyda "generally unfavorable reviews".[14] Rhoddodd gynulleidfaoedd a ofynnwyd gan CinemaScore radd gyfartal o "C+" ar raddfa A+ i F, yr un radd a'r ffilm gyntaf.[15]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.