Ysgol breswyl annibynnol yn nhref Uppingham, sir Rutland, Lloegr, yw Ysgol Uppingham (Saesneg: Uppingham School). Mae'n un o'r ysgolion hynaf yn Lloegr, wedi ei sefydlu yn 1584.
Y diwygiwr addysg Parch Edward Thring (1853–87) yw prifathro mwyaf adnabyddus yr ysgol, efallai. Yn ystod ei dymor fel prifathro cafwyd teiffoid yn yr ardal a symudwyd yr ysgol i'r Borth, Ceredigion, am gyfnod er mwyn ymgeled y disgyblion. Cofir am y symud dros dro i'r Borth mewn gwasanaeth blynyddol a gynhelir yng nghapel yr ysgol.