Ysgol gynradd Gymraeg ym mhentref Talwrn ger Llangefni, Ynys Môn, yw Ysgol Talwrn. Mae yn rhan o dalgylch Ysgol Gyfun Llangefni.[1]
Roedd 40 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005,[2] ond erbyn 2009, dim ond 33 disgybl oedd yn yr ysgol, a'r bwriad oedd i'w chau, ond wedi i'r ysgol dderbyn canmoliaeth cedwyd hi ar agor.[3] Erbyn hyn mae tua 45 o blant yna ac maent yn ceisio ei chau eto. Mae cymuned yr ysgol yn benderfynol o'i chadw ar agor gan fod sôn am gau'r ysgol yn dragwyddol. Fe enillodd Ysgol Gynradd Talwrn cystadleuaeth F1 mewn ysgolion drwy Brydain yn 2011. Mae'r ysgol yn un dda iawn ac mae pawb sy'n mynd yna yn mwynhau ei hunain.
Mae y pentref Talwrn yn rhan o gymuned Llanddyfnan ble mae 70.2% o bobl yn siaradwyr Cymraeg.
Llinos Goosey yw'r brifathrawes presennol.
Cyfeiriadau