Mae Ysgol Rhostryfan yn ysgol gynradd fechan yn nalgylch ysgolion uwchradd Syr Hugh Owen ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Mae 60 i 70 o blant yn yr ysgol a cheir un athro a phedair athrawes.
Yr Urdd
Fel sawl ysgol arall yng Nghymru, mae Ysgol Rhostryfan yn cystadlu bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd. Cystadlodd yr ysgol yn 2009 am y band roc a phop gorau a chawsant y 3ydd safle.