Mr. Rhys Ynyr Jones yw ei phrifathro presennol. Un o gyn-ddisgyblion yr ysgol oedd Tecwyn Roberts, un o wyddonwyrNASA.
Mae Ysgol Parc y Bont yn ysgol Gymraeg ac roedd yr hen adeilad ym Mryn Celli Ddu. Agorodd yr adeilad newydd yn 2013. Cafodd yr ysgol estyniad yn 2018. Mae dros hanner y plant sy’n mynd i'r ysgol yn byw yn Llanddaniel Fab. Mae plant o Gaerwen, Dwyran, Penmynydd, Niwbwrch, Llanfairpwll, Rhosmeirch a Brynsiencyn hefyd yn mynd i'r ysgol.
Mae 20 aelod o staff yno ac mae yn 12 aelod yng Nghorff Llywodraethol yr ysgol.
Dyma’r grwpiau sydd gan Ysgol Parc y Bont: Cyngor Ysgol, Ffridiau Ffitrwydd, Grŵp Gwyrdd, Meddylfryd o Dŵf a'r Siarter Iaith.
Mae Ysgol Parc Y Bont yn ysgol Gymraeg
Mae Clwb Gofal a Chlwb Brecwast yn yr ysgol. Mae Clwb Gofal yn dechrau am 07:50. Mae Clwb Brecwast yn yr ysgol sy’n dechrau am 08:15.
Mae’r Urdd yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn wythnosol. Cyn cyfyngiadau Covid, roedd amrywiaeth o glybiau yn cael eu cynnal fel Clwb Pêl-droed, Clwb Coginio, Clwb Kick-it, Clwb Gymnasteg. Mae'r plant yn cael tripiau i wersylloedd fel Glan Llyn, Caerdydd a Llangrannog.
Gwersi offerynnol sy’n cael eu dysgu yn yr ysgo yw ffliwt a'r gîtar.
Gwisg ysgol Ysgol Parc y Bont yw Siwmper/cardigan goch, crys polo gwyn, trwosus/sgert ddu neu lwyd, trowsus byr, ffrog lwyd, ffrog goch a gwyn.