Mae Ysgol Henry Richard yn ysgol dwyieithog 3-16 oed yn Nhregaron Ceredigion. Agorwyd yn 2014 lle bu'n gweithredu ar dair safle. Er hyn bu'n gweithredu fel ysgol un campws o fis Hydref 2018 ymlaen.[1] Agorwyd yr ysgol yn swyddogol ar 11 Gorffennaf 2019 gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.[2] Crëwyd yr ysgol ar ôl uno ysgolion cynradd Tregaron a Llanddewi Brefi gydag Ysgol Uwchradd Tregaron.[3] Daw enw'r ysgol o un o enwogion y dref sef Henry Richard AS.
Lleolir ysgol Henry Richard ar gampws yr hen Ysgol Uwchradd yn Nhregaron. Adeiladwyd estyniad i'r adeilad lle lleolir y sector gynradd.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol