Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug

Ysgol Plascrug
Mathysgol gynradd, ysgol ddwyieithog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.410149°N 4.074758°W Edit this on Wikidata
Cod postSY23 1HL Edit this on Wikidata
Map

Ysgol gynradd gymunedol Saesneg yn ardal Plascrug, Aberystwyth, Ceredigion, yw Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug. Mae'n darparu addysg ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed, mae dosbarth meithrin rhan-amser ar gyfer y plant ifengaf.[1] Diffinnir fel ysgol yng nghategori B polisi iaith yr awdurdod lleol, felly Saesneg yw prif iaith yr ysgol a dysgir y Gymraeg fel ail iaith. Roedd 362 o blant yn yr ysgol yn 2006.[2]

Adeiladwyd estyniad newydd ar gyfer yr ysgol a agorwyd yn 2011, gan gael gwared ar hen gabanau ac adeiladau dros dro'r ysgol a oedd bellach yn anaddas ar gyfer addysgu. Gosodwyd celloedd ffotofoltäig ar y to er mwyn cyflenwi trydan, ac amcangyfrifir i rhain wneud elw o £513 y mis.[3]

Mae'r ysgol wedi ei lleoli y drws nesa i Glwb Rygbi Aberystwyth.

Cyfeiriadau

  1.  Ysgol Gynradd Plascrug. Cyngor Sir Ceredigion. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2011.
  2.  Huw Jones (19 Gorffennaf 2006). Adroddiad Arolygiad 22 Mai 2006 (Saesneg). Estyn.
  3.  Ysgol Gynradd Plascrug - Aberystwyth. Ysgolion yr 21ain ganrif. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2011.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!