Ysgol gynradd ddwyieithog yn Nhreorci, Rhondda Cynon Taf yw Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen. Y prifathro presennol yw Mr D E D James.[2]
Sefydlwyd yr ysgol ym 1950. Yn 2011, roedd 341 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 37 o blant meithrin a oedd yn mynychu'n rhan-amser. Dim ond tua 4% o'r plant ddaeth o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith. Addysgir y plant drwy gyfrwng y Gymraeg.[1]
Roedd Carol Llewellyn, aelod o grŵp canu ysgafn boblogaidd, Perlau Tâf yn dysgu yn yr ysgol am gyfnod yn yr 1970au.[3]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol