Ysol Gynradd Gymraeg Bryntaf oedd ysgol Gymraeg gyntaf Caerdydd. Fe'i sefydlwyd yn 1949 gan ddod i ben (pan rhannwyd y disgyblion ymysg pedair ysgol arall Gymraeg newydd ar draws y ddinas) yn 1980.
Hanes Sefydlu
Cafwyd ymgais ar sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn yr 1930au. Roedd yn fwriad gan Gwyn M. Daniel a rhai eraill o selogion Tŷ'r Cymry i sefydlu ysgol yn 1937-38 ond bu i'r ddyfodiad yr Ail Ryfel Byd ac i Arglwydd Faer Caerdydd fynnu mai cyfrifoldeb y pwyllgor addysg y ddinas oedd sefydlu pob ysgol, roi taw ar y syniad. Serch hynny, fe gynhaliwyd Ysgol Gymraeg fore Sadwrn o 1943 ymlaen yn Nhŷ'r Cymry.
Ysgol Bryntaf oedd y drydedd ysgol gynradd benodol Gymraeg ei hiaith i'w hagor yng Nghymru (agorwyd Ysgol Gymraeg yr Urdd yn Aberystwyth ym Medi 1939 lle roedd rhaid i'r rhieni dalu ffi am y blynyddoedd cyntaf) ac agorwyd Ysgol Dewi Sant, Llanelli yn 1947, yr ysgol gyntaf i'w hagor gan awdurdod leol fel ysgol benodedig Gymraeg.
Lleolwyd yr ysgol, 'Ysgol Gymraeg Caerdydd' ar Heol Ninian, Caerdydd a roedd 19 o ddisgyblion yn y dosbarth cyntaf hwnnw yn 1949. Symudodd yr ysgol maes o law i ardal Highfields yn Llandaf, lle rhoddwyr yr enw Bryntaf oedd yn un topograffegol. Dyma leoliad Ysgol Pencae bellach.[1] Gwelwyd tŵf cyson i'r ysgol o dan arweiniad ei phrifathrawes, Enid Jones. Yn ei bennod yn y llyfr Our Children's Language[2] galwodd Michael Jones ei chyfnod yn "inspired leadership".
Safle Mynachdy
Oherwydd poblogrwydd yr ysgol bu'n rhaid symud i safle hen ysgol uwchradd Viriamu Jones yn stâd dai Mynachdy yn 1968 wrth ymyl lein reilffordd Caerdydd i Bontypridd. Erbyn diwedd cyfnod y Brifathrawes Enid Jones roedd yr ysgol wedi tyfu i 426 o ddisgyblion.
Noda Michael Jones yn ei erthygl fod y cyfnod hwn yn un "turbulent". Erbyn 1974 noda Michael Jones bod y prifathro newydd, Tom Evans, yn gwynebu drwg-deimlad gan y trigolion lleol at yr ysgol Gymraeg oedd "almost akin to racism". Poerwyd ar blant Bryntaf gan y trigolion lleol ac adeiladwyd blocâd i rwystro'r bysiau oedd yn cyrchu'r plant rhag cael mynediad i'r ysgol Gymraeg. Yn ôl un cyn-ddisgybl, Siôn Jobbins, bu galw enwau o bryd i'w gilydd rhwng y disgyblion Cymraeg a di-Gymraeg. Galwyd y disgyblion di-Gymraeg yn 'inglis' gan blant Bryntaf. Roedd y sefyllfa cynddrwg fel bod rhaid symud eto.
Safle Y Parade
Oherwydd y drwg deimlad lleol a thŵf parhaus yr ysgol bu'n rhaid symud o'r safle yn Mynachdy, Gabalfa. Yn 1975 agorodd yr ysgol yn hen adeilad fawr Cardiff High School for Girls ar y Parade yng nghanol dinas Caerdydd, lleoliad Coleg Caerdydd a'r Fro bellach.
Oherwydd nad oedd cae chwarae gan yr ysgol bu'n rhaid cynnal gwersi chwareon ar gaeau Blackweir oddi ar Ffordd y Gogledd a cynhaliwyd Mabolgambau'r Ysgol yn Stadiwm Maendy.
Erbyn 1978-79 roedd gan yr ysgol 600 o ddisgyblion. Honir mai hon oedd yr ysgol gynradd fwyaf yn Ewrop ar y pryd.
Daeth Bryntaf i ben yn haf fel yr unig ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd yn 1980 pan agorwyd Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd ac yna yn 1981 Ysgol y Wern ac Ysgol Coed-y-Gof (gyda Tom Evans yn brifathro arni). Parhaodd dros 100 o blant i dderbyn eu haddysg ar yr hen safle yn yr ysgol dan yr enw newydd Ysgol y Rhodfa (yn ôl Michael Jones). Ond ceir peth trafodaeth am yr enw. Yn ôl llun gan Iwan Evans[3] o'i ddosbarth Blwyddyn 1 yn 1982-93, nodir ar y bwrdd o flaen y plant yr enw 'Ysgol Gymraeg Bryntaf'. Efallai i'r enw Ysgol y Rhodfa gael ei harddel yn swyddogol ond mai Bryntaf oedd yr enw poblogaidd.
Roedd y rhieni'r plant oedd yn parhau i gael eu haddysg Gymraeg ar safle Ysgol y Rhodfa (Bryntaf) anhapus gyda'r sefyllfa. Er gwaethau diffyg cefnogaeth gan Mr G.O. Pearce, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Sir De Morgannwg i ganfod ysgol Gymraeg arall, nodwyd bod niferoedd ysgol Saesneg Pen-yr-Heol yn cwympo a gellid symud y plant cyfrwng Cymraeg yno, er gwaetha'r ffaith bod y lleoliad yn bell o gartrefi mwyafrif helaeth y plant.
Prifathrawon ac Athrawon Bryntaf
Enid Jones, Prifathrawes: 1949 - 1972
Tom Evans, Prifathro: 1972 - 1979 (bu farw yn 2013[4])
Gemau a geirfa
Efallai oherwydd mai Bryntaf oedd yr unig ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd am ddegawdau fe ddatblygodd rhoi nodweddion unigryw.
Gêm buarth (neu 'iard') ysgol a chwaraewyd gan blant yr ysgol yn yr 1970au oedd "yr achi touch" (ynganiad: 'achi' gyda'r /χ/ yr èch Gymraeg a 'touch' gyda /t͡ʃ/ y 'ch' Saesneg). Mae natur ddwyieithog yr enw'n adlewyrchu natur ddwyieithog buarth yr ysgol: sy'n gyfuniad o'r gair Cymraeg 'achi' (tebyg i 'ych-a-fi') a'r gair Saesneg touch. Roedd yn air arall ar y gêm tag neu touch lle mae un plentyn 'arno' ac yn cael gwared ar yr 'haint' gan gyffwrdd plentyn arall. Byddai'r plentyn oedd 'arno' fel rheol yn gorfod rhedeg ar ôl y plant eraill i'w cyffwrdd a phasio'r haint gyda'r 'achi touch'. Roedd modd amddiffyn eich hun rhag yr 'achi touch' drwy sefyll ar fan o'r enw 'cri' (neu gartref saff) e.e. petai'r plentyn yn cyffwrdd â ffens ddur y buarth, sefyll oddi ar y llawr neu ar ben gorchudd draen ddur. Daw'r gair 'cri' o'r Saesneg 'cree'[5] a ddefnyddir ar draws Morgannwg (hyd at Abertawe), Gwent, Sir Frycheiniog, Swydd Gaerloyw, rhan helaeth o Wlad yr Haf a gogledd Wiltshire.
Ebychiad o bosib unigryw i Fryntaf oedd "om". Defnyddiwyd yn sicr yn yr 1970au. Nid yw'n sicr os defnyddiwyd y gair cyn hynny nac wedi i Bryntaf ddod i ben fel ysgol ac i'r disgyblion gael eu rhannu i bedair ysgol (ac yna mwy) ar draws Caerdydd. Defnyddiwyd "om" fel ebychiad ar ddechrau brawddeg i nodi anhapusrwydd â gweithred gan blentyn neu berson arall e.e. "om, fi'n dweud arnot ti am redeg yn y coridor"" neu "om, ti wedi dweud gair drwg"". Gellid ei ystyried yn ieithyddol fel ataliad llafar ('vocalised pause') neu 'filler' ond dydy hyn ddim yn gwneud llawn cyfiawnhâd gyda'r geiryn gan bod pwrpas benodol iddo, sef tanlinellu bod y siaradwr yn teimlo bod cam wedi digwydd. Does dim cofnod ysgrifenedig o'r geiryn ond ceir atgofion cyn-ddisgyblion o'r gair.
Roedd y gair "Inglis" mwy na thebyg yn unigryw i blant yr ysgol. Ynganwyd gydag 's' neu 'z' ar y diwedd. Defnyddiwyd i gyfeirio at y plant a'r bobl di-Gymraeg eu hiaith oedd yn ymosod ar yr ysgol yn ystod cyfnod cythryblus yr ysgol ar safle Mynachdy yn yr 1970au cynnar. Yn ôl yr awdur, Michael Jones, roedd y drwg-deimlad gan y bobl lleol di-Gymraeg tuag at bodolaeth Ysgol Bryntaf yn "almost akin to racism".[6] Cofia cyn-ddisgyblion, megis Siôn Jobbins, fel y byddai plant di-Gymraeg, yr 'inglis' yn ymosod ar blant Cymraeg gan daflu bagiau creision gweigion yn llawn dŵr ac ymladd law yn llaw yn y tir gwag o gylch yr ysgol.