Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Gymraeg yn y Fflint, Sir y Fflint yw Ysgol Gynradd Croes Atti, ar gyfer plant 3 i 11 oed, a agorwyd ym 1964.[3]
Roedd 224 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2003,[4] ac mae'r nifer yn gyson gyda 223 o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2009, gan gynnwys 46 o blant meithrin a fynychai'n ran amser. Dim ond 1% o'r disgyblion ddaeth o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith.[2]
Mae'n gwasanaethu tref y Fflint ac ardal Glannau Dyfrdwy.[4]
Fel rheol, fe aiff plant o'r ysgol ymlaen i Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug ym mlwyddyn 7 yn y system addysgol.
Arwyddair yr ysgol yw Dwy ffenestr ar y byd.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol