Ysgol gynradd gymunedol ddwyieithog yw Ysgol Gynradd Aberteifi, a leolir yng nghanol tref Aberteifi, Ceredigion. Sefydlwyd ar ei ffurf bresennol yn 2008, wedi uniad Ysgol y Plant Bach Aberteifi ac Ysgol Iau Aberteifi, gan barhau i ddefnyddio hen adeiladau'r ddwy ysgol.
Roedd 308 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol yn 2010. Dim ond 13% o'r disgyblion ddaeth o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith. Cymraeg yw cyfrwng yr addysg hyd 5 oed, yna rhannir yr ysgol yn ddau ffrwd, un cyfrwng Saesneg gyda 5 dosbarth, ac un cyfrwng Gymraeg gyda 6 dosbarth.[1]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol