Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof

Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof
Arwyddair Dyfal Donc a Dâl
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Michael Hayes
Lleoliad Beechley Drive, y Tyllgoed, Caerdydd, Cymru, CF5 3SG
AALl Cyngor Caerdydd
Disgyblion 370 (2012)
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 4–11
Gwefan http://www.ysgolcoedygof.cardiff.sch.uk

Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yn ardal y Tyllgoed, Caerdydd yw Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof. Y prifathro presennol yw Mr Michael Hayes.[1]

Roedd 350 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2003, ond lleihaodd y nifer i 303 erbyn 2006. Yn 2012 roedd y nifer wedi codi eto i 370. Dim ond 1% o'r disgyblion a ddaw o gartrefi sydd â'r Gymraeg yn brif iaith yr aelwyd.[2]

Er i'r ysgol gael adroddiad ardderchog gan Estyn a'i disgrifiodd hi fel ysgol dda iawn yn 2004, yr un flwyddyn, daeth yr ysgol i lygaid y cyhoedd oherwydd cyflwr gwael ei hadeiladau. Roedd dŵr yn gollwng o'r to ac yn peryglu bywydau wrth ddodd i gyswllt â thrydan yn yr hen portacabin a godwyd tua 1994 fel mesur dros dro.[3]

Cyfeiriadau

  1.  School Details: Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
  2. "Adroddiad Estyn 2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-12. Cyrchwyd 2013-07-27.
  3. Protest over 'death risk' classrooms BBC 13 Mai 2004

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!