Ysgol gynradd yng Nghasnewydd yw Ysgol Gymraeg Casnewydd. Mae'n un o dair ysgol Gymraeg yn ninas Casnewydd; y lleill yw Ysgol Ifor Hael ac Ysgol Bro Teyrnon. Mae'n sefyll gyferbyn i safle Ysgol Uwchradd Llanwern (ysgol gyfun Saesneg). Agorodd yr ysgol ar 1 Medi 1993 ar ôl bron 30 mlynedd o waith caled gan aelodau'r gymuned. Gwelwyd cynnydd mawr yn y diddordeb mewn addysg Gymraeg yng Nghasnewydd a'r ardal leol ers 1976.[1]
Yn 2002 agorodd meithrinfa i blant ieuanc tair mlwydd oed yn yr ysgol a thyfodd nifer y ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol i dros 400.
Ers 2016, mae mwyafrif disgyblion yr ysgol yn mynychu Ysgol Gyfun Gwent Is Coed wedi iddynt adael. Yn flaenorol byddai rhaid i ddisgyblion yr ysgol symud ymlaen i Ysgol Gyfun Gwynllyw, ym Mhont-y-pŵl er mwyn parhau mewn addysg Gymraeg.