Ysgol Gyfun y Strade

51°41′11″N 4°10′55″W / 51.6865°N 4.1819°W / 51.6865; -4.1819

Ysgol Gyfun y Strade
Arwyddair Nid da lle gellir gwell
Sefydlwyd 1977
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Geoff Evans
Lleoliad Heol Sandy, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA15 4DH
AALl Cyngor Sir Gaerfyrddin
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Gwyrdd, gwyn a du

Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin yw Ysgol Gyfun y Strade. Ysgol categori 2A ydyw, yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru. Mewn ysgol o'r fath addysgir o leiaf 80% o’r pynciau ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl ac mae un neu ddau o bynciau yn cael eu haddysgu i rai o’r disgyblion yn Saesneg neu yn y naill iaith a’r llall.[1]

Hanes

Sefydlwyd yr ysgol ym 1977, hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yn Llanelli.[angen ffynhonnell] Mae'r ysgol yn derbyn disgyblion o'r ardal amgylchynol, mae'r dalgylch yn cynnwys ysgolion cynradd Dewi Sant, Llangennech, Trimsaran, Felinfoel, Heol Goffa, Parc y Tywyn, Brynsierfel Llwynhendy, Ysgol Gynradd yr Hendy a Ysgol Gymunedol Ffwrnes.[angen ffynhonnell]

Ar y cychwyn roedd yn ysgol weddol fach, ond mae wedi tyfu'n sylweddol bellach. Mae gan yr ysgol chweched dosbarth hefyd; y Strade yw'r unig ysgol uwchradd y wladwriaeth yn nhref Llanelli sydd wedi cadw ei chweched dosbarth, gan fod y disgyblion o bob ysgol arall o'r dref yn mynychu Coleg Sir Gaerfyrddin ar gyfer eu haddysg ôl-16, drwy gyfrwng y Saesneg.

Mr Desmond Jones oedd pennaeth cyntaf yr ysgol, gyda Mr John Rees a Ms Megan Evans yn ddirprwyon. Yna daeth Ms Nesta Thomas yn ddirprwy. Daeth Mr Geraint Roberts yn bennaeth, olynwyd ef gan Mrs Heather Lewis ym mis Medi 2009. Ers 2005 mae'r ysgol wedi gweithio mewn cydweithrediad gyda Ysgol Gyfun Bro Myrddin ac Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa i gynnig pynciau megis Sbaeneg a Ffrangeg i'w disgyblion, trwy gyfrwng y Gymraeg, ar gyfer TGAU a Lefel A.

Cyn-ddisgyblion enwog

Gweler hefyd y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol y Strade

Cyfeiriadau

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!