Ysgol gynradd dwy-ieithog yng Nganllwyd ger Dolgellau, Gwynedd, ydy Ysgol Ganllwyd. Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol y Gader. Roedd 28 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2002, gyda 68% yn dod o gartrefi Cymraeg iaith gyntaf, gyda gweddill y disgyblion yn dod i siarad Cymraeg yn hyderus yn ystod eu hamser yn yr ysgol.[1]