Ysbyty cyffredinol ger Bodelwyddan, Sir Ddinbych yw Ysbyty Glan Clwyd. Hyd 2009 lleolwyd pencadlys Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych yno. Erbyn hyn mae'n un o dri ysbyty cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae'n gwasanaethu ardal canolbarth gogledd Cymru, sef Sir Conwy a Sir Ddinbych yn bennaf. Cyfeiria'r enw at Afon Clwyd.
Agorwyd yr ysbyty yn 1980. Mae'r adrannau a gwasanaethau yn cynnwys Damweiniau ac Argyfyngau, patholeg, delweddu, obstetreg, iechyd meddwl, pediatreg, oncoleg, a ffisiotherapi.[1]
Ceir gwasanaeth radio ar gyfer yr ysbyty, sef Radio Ysbyty Glan Clwyd,[2] sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau