Drama lwyfan olaf y dramodydd John Gwilym Jones yw Yr Adduned a gyfansoddwyd ar gais comisiwn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979. Cyfaddefod
| Enghraifft o: | drama lwyfan Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1979 |
| Awdur | John Gwilym Jones |
| Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1979 |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan olaf y dramodydd John Gwilym Jones yw Yr Adduned a gyfansoddwyd ar gais comisiwn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979. Cyfaddefodd y dramodydd ei fod wedi cyfansoddi'r ddrama "ar ôl rhoi addewid i gyfaill agos a fu farw". [1] Cyflwynir y gyfrol "I gofio am Wil ac i Mary".[1] Ychwanegodd fod y ddrama "yn ymdrin â hyfrydwch cofio am orffennol wedi ei ddelfrydu, ac atgasedd at bresennol y gorfodir dyn i fyw ynddi".[1]
Digwydd y ddrama rhwng "Ddoe a Heddiw", a chanolir y digwydd o gwmpas y cymeriad "Ifan [1]" sy'n sgwrsio drwy gydol y ddrama gydag "Ifan [2]". Rhyw lun ar lais cydwybod ydi Ifan 2, sy'n perthyn i bob un ohonom. Mae'n cysuro Ifan 1 yn ei unigrwydd ac eto yn ei herio ar brydiau i gyflawni yr hyn mae o eisiau, yn ystod ei fywyd. Mae'r ddau yn ail-ymweld â gorffennol Ifan 1, gan gyfarfod y cymeriadau hŷn "Elis a Meri Huws" ac "Ianto", yn ogystal â "Bet" a "Cit" sy'n fwy ifanc.
"Holl bwynt Yr Adduned", yn ôl y dramodydd, "yw bod dau ohonoch chi, bod rhywbeth y tu mewn i chi yn eich arwain. Dyna'r gwahaniaeth rhwng ysbrydoliaeth allanol ac ysbrydoliaeth fewnol. 'Rwyf fi'n credu, fel yr oedd Wordsworth yn credu, ein bod wedi dod o ryw graidd, ein bod yn crwydro ymhell oddi wrtho a bod holl fudreddi'r byd yn ein difetha ond, pan ydym ar yr eithaf pellaf o'r canol llonydd, daw rhywbeth i'n gyrru'n ôl i'r craidd. Er mwyn trio dweud hynny yr ysgrifennais i Yr Adduned".[2]
Rhoddwyd y Comisiwn gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.[1] Yn y gyfrol Ar Draws ac Ar Hyd, nodir bod sawl atgof yn y ddrama yn seiliedig ar atgofion go iawn, fel hanes "Elis a Meri Huws" yn yr Act gyntaf gafodd eu hysbrydoli gan "Mary Jones a Ianto oedd yn byw drws nesaf i Nain" [ger Llandwrog][2]
Noda hefyd, yn yr un gyfrol, "Unwaith erioed y teimlais fy mod yn cael fy ngwthio i ysgrifennu", a'r ddrama hon oedd yr adeg honno. Roedd y dramodydd wedi addo i'w "gyfaill agos" sef Wil Vaughan Jones, cadeirydd Pwyllgor Drama Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979, a fu farw'n fuan wedyn, y byddai'n cyfansoddi drama i'w llwyfannu yn ystod yr Ŵyl. Ond wedi iddo golli ei gyfaill, "aeth y comisiwn yn boen arnaf. Ni fedrwn feddwl am syniad o fath yn y byd ond 'roedd rheidrwydd emosiynol cyfeillgarwch hir arnaf i wneud rhywbeth. Euthum i'm gwely un noson a deffro yn y bore yn gwybod yn union gwrs y ddrama."[2]
Cyfeiriodd hefyd at ei grêd bod "yna ddau ohonom, yr un sy'n ysgrifennu a'r un sy'n dangos y ffordd". Ni chredai fod yna "y fath beth ag ysbrydoliaeth [...] yn ystyr dduwiol y gair - fod syniad yn cysgu yn anymwybod dyn nes i ryw anogaeth ei ddeffro".[2] Ceir yr un syniadaeth a dau actor gwahanol yn portreadu'r dramodydd yn nrama Alan Bennett, The Lady in the Van.
Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf gan "Gwmni Drama'r Eisteddfod" yn Theatr Seilo, Caernarfon yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979. Cynhyrchydd [cyfarwyddwr] John Gwilym Jones; goruchwyliwr llwyfan Dewi T. Davies; goleuo Tom Vaughan Jones ac Ifan Parry; cerddoriaeth Gareth Mitford Williams; coluro Mrs Iorwerth Jones a Miss Kate Jones; cast:
3 perfformiad yn unig oedd y cynllun gwreiddiol, a hynny yn Theatr Seilo, Caernarfon, ond oherwydd y galw mawr am docynnau, bu'n rhaid ychwanegu perfformiad ychwanegol ar Sadwrn cynta'r Eisteddfod, er mwyn galluogi i "300 o bobl" ychwanegol, i weld y ddrama.[3]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.