Enw ystadegol a ddefnyddir gan yr ISO ar gyfer côd ISO 3166-1 yw Ynysoedd Pellennig Bychain yr Unol Daleithiau sy'n cynnwys naw o ardaloedd ynysol Unol Daleithiau America: wyth tiriogaeth yn y Cefnfor Tawel (Ynys Baker, Ynys Howland, Ynys Jarvis, Atol Johnston, Rîff Kingman, Ynysoedd Midway, Atol Palmyra, ac Ynys Wake), ac Ynys Navassa ym Môr y Caribî.