Maen Ynysoedd Ffaröe yn dalaith hunanlywodraethol o Ddenmarc ers 1948 gan gymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor.
Daearyddiaeth
Tórshavn yw'r brifddinas, ac mae ganddi boblogaeth o 19,000; yr ail ddinas yw Klaksvik sydd â phoblogaeth o tua 6,000. Mae trwch gweddill y boblogaeth wedi'i gwasgaru ymysg y pentrefi arfordirol. Mae pobl yn byw ar 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd yw Streymoy, Eysturoy, a Vágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngiedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.
Ardal yr ynysoedd yw 1,399 cilomedr sgwâr (540 mi.sg), ac nid oes afonydd na llynnoedd o bwys. Mae 1,117 cilomedr (694 mi) o arfordir, ac nid oes ffin tirol gydag unrhyw wlad arall. Yr unig ynys fawr sydd heb drigolion arni yw Lítla Dímun.
Demograffeg
Cyrhaeddodd yr ynys boblogaeth o 50,000 am y tro cyntaf erioed yn ei hanes yng nghanol 2017.[2] Mae'r llywodraeth wedi ceisio delio gydag allfudo, yn enwedig allfudo menywod ifanc, a bydd nifer o ddynion yn canlyn gwragedd o Ynysoedd y Ffilipinau i fod i'w priodi.[3] Mae ymdrechion i geisio gymathu newydd-ddyfodiaid i iaith unigryw a diwylliant yr ynysoedd.[4]
Hanes
Daeth trigolion gwreiddiol yr ynysoedd yno adeg y Llychlynwyr; mae hanes y drefedigaeth i'w chael yn y Færeyinga Saga.
Diwylliant
Mae diwylliant yr ynysoedd yn hannu o olion o'r hen ddiwylliant Lychlynnol-Scandinafaidd wedi'u cymysgu â diwylliant draddodiadol ffermio a physgota cynhaliol.
Iaith gynhenid, a bellach prif iaith swyddogol yr ynys, ydyw'r Ffaröeg, iaith Germanaidd sy'n ymdebygu rhywfaint i'r Islandeg. Dethlir diwrnod nawddsant yr Ynysoedd, Ólavsøka ('Gwylnos Sant Olaff') ar 29 Gorffennaf. Ceir cyfres o ddigwyddiadau yn arwain at y diwrnod. Ar yr 29ain fe agorir Senedd y wlad: y Logting.
Ceir Coleg trydyddol a galwedigaethol, Glasir a Prifysgol Ynysoedd y Ffaröe ar yr ynysoedd, a Ffaroeg yw iaith gweinyddu ac addysgu'r sefydliadau yma gan fwyaf.
Gwleidyddiaeth
Wedi'r Ail Ryfel Byd pan meddiannwyd yr Ynysoedd gan luoedd Prydain, cafodd yr Ynyswyr flas ar fod yn hunanlyworaethol gan i Ddenmarc cael ei meddiannu gan y Natsïaid. Yn sgîl hyn cafwyd Refferendwm ar Annibyniaeth yn 1948. Er i'r mwyafrif bleidleisio dros annibyniaeth, penderfynodd Denmarc beidio ildio'n llawn gan roi elfen gref o hunanlywodraeth yn lle.
Ceir trafodaeth gyson ar ddatganoli a bu bwriad cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2018 [5] ond ni ddaeth hyn i law. Serch hynny mae'r drafodaeth dros ragor o bwerau yn un byw.
Bu'r ynysoedd yn destun chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr Albanaidd sydd eisiau annibyniaeth i'r Alban gan fod yn destun ffilm fer gan y newyddiadurwaig, Lesley Riddoch yn 2018.[6]