Yr ynys fwyaf yw An Blascaod Mór ( Great Blasket Island); mae'r ynysoedd eraill yn cynnwys Beiginis (Beginish), Inis Mhick Uileáin (Inishvickillane), Inis Tuaisceart (Inishtooskert) ac An Tiaracht (Tearaght Island). Ar un adeg, roedd cymuned unigryw, hollol Wyddeleg ei hiaith, yn byw yma. Gadawodd y trigolion olaf yr ynysoedd yn 1953.
Cynhyrchodd trigolion yr ynysoedd hyn nifer o weithiau llenyddol pwysig, yn arbennig hunangofiant Tomás Ó Criomhthain, An tOileánach ("Yr Ynyswr").
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!