Un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd ydy Ynys Staten (Saesneg: Staten Island). Fe'i lleolir yn rhan de-orllewin y ddinas. Gwahenir Ynys Staten oddi wrth New Jersey gan yr Arthur Kill a'r Kill Van Kull, ac o weddill Efrog Newydd gan Fae Efrog Newydd. Cafodd ei uno gydag Efrog Newydd ym 1898. Ynys Staten yw'r bwrdeistref lleiaf poblog o bum bwrdeistref Efrog Newydd, gyda llai na 0.5 miliwn o drigolion. Fodd bynnag, hi yw'r drydedd fwyaf o ran arwynebedd.