Mae Ynys Cribinau yn ynys fechan oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, tua milltir a hanner o Aberffraw yng nghwmwdMalltraeth. Gellir croesi i'r ynys ar droed pan fo'r llanw'n isel.
Yr unig adeilad ar yr ynys yw Eglwys Llangwyfan, sydd wedi ei cysegru i Sant Cwyfan. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 13g. "Yr eglwys yn y môr" yw'r enw lleol arni. Cynhelir gwasanaethau ynddi ac mae'n eglwys boblogaidd ar gyfer priodasau.
Mae mapiau o'r 17g yn dangos yr eglwys wedi'i chysylltu â'r tir mawr ond er hynny mae'r clogwyni clae wedi'u erydu gan y môr gan adael yr eglwys ar ei hynys. Mae mur amddiffynnol o gwmpas yr eglwys i'w hamddiffyn rhag y tonnau.