Y Tair Rhamant

Mae'r tair stori a adnabyddir wrth yr enw Y Tair Rhamant yn chwedlau Arthuraidd Cymraeg Canol o'r Oesau Canol. Maent i'w cael yn rhannol neu yn gyfan yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Ceir chwedlau sy'n cyfateb iddynt yng ngwaith yr awdwr Ffrangeg Chrétien de Troyes o ail hanner y 12g yn ogystal. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Mae iaith ac arddull y rhamantau hyn yn bur debyg i iaith ac arddull Pedair Cainc y Mabinogi.

Y Tair Rhamant yw:

Mae Iarlles y Ffynnon yn cyfateb i Yvain ou le Chevalier au lion gan Chrétien, Peredur fab Efrawg i Perceval ou le Conte du Graal a Gereint ac Enid i Érec et Énide.

Llyfryddiaeth

  • Y tair rhamant- y testun wedi'i ddiweddaru gan Bobi Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1960
  • Stephens, Meic (gol.) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru Gwasg Prifysgol Cymru, 1986. ISBN 0-7083-0915-1
Llinellau agoriadol testun Geraint ac Enid (Geraint fab Erbin) yn Llyfr Coch Hergest
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!