Pencadlys Gweinyddiaeth Amddiffyn yr Unol Daleithiau (Saesneg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).) yw'r Pentagon. Fe'i lleolir yn Arlington County, Virginia, ar gyrion Washington, D.C. Mae ganddo 600,000 m2 o arwynebedd llawr. Cychwynnwyd adeiladu'r Pentagon ar 11 Medi 1941 ac fe'i gorffennwyd ym 1943; yr Americanwr George Bergstrom (1876–1955) oedd y pensaer. 60 mlynedd yn union wedi i'r adeiladu cychwyn, drylliwyd yr awyren American Airlines Flight 77 ar ochr orllewinol yr adeilad mewn un o ymosodiadau 11 Medi 2001.