Y Gop

Bryn a safle archaeolegol yn Sir y Fflint yw Y Gop, sy'n dod o'r gair "copa". Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y sir fymryn i'r gogledd o bentref Trelawnyd, S

Y Gop
Y Gop
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr251 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3104°N 3.3722°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ0867480166 Edit this on Wikidata
Hyd80 metr Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd59 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMynydd y Cwm Edit this on Wikidata
Map

Bryn a safle archaeolegol yn Sir y Fflint yw Y Gop, sy'n dod o'r gair "copa". Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y sir fymryn i'r gogledd o bentref Trelawnyd, Sir Ddinbych a gellir ei ystyried fel un o gopaon gogleddol Bryniau Clwyd, er ei fod fymryn i'r dwyrain o'r brif gadwyn. Dyma ail siambr gladdu fwyaf gwledydd Prydain - ar ôl Silbury Hill ger Avebury ac mae'n perthyn i Oes Newydd y Cerrig.[1] Yn lleol, gelwir y bryncyn hefyd yn Fryn y Saethau.

Y garnedd ar ben Y Gop.

Carnedd a chrug crwn

Mae gan Y Gop le arbennig yn hanes archaeoleg a chynhanes Cymru. Coronir ei gopa â charnedd gynhanesyddol anferth, sydd yr ail fwyaf yng Nghymru a Phrydain (cyfeiriad grid SJ086801). Uchder y garnedd yw tua 12 medr ac mae ganddi lled o tua 80 medr.[2] Blociau mawr o galchfaen a ddefnyddwyd yn bennaf i godi'r garnedd, gydag olion mur o gerrig i'w cryfhau.[3]

Gerllaw ceir crug crwn (cyfeiriad grid SJ088801). Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: FL042.[4] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Yn ôl yr archaeolegydd Ian Brown, mae'r domen hon mor rwysgfawr ac enigmatig â Silbury Hill. Mae'n ofal o ran siâp ac yn mesur 101 wrth 78 metr, ac yn 14m o uchder. Mae rhai o'r meini calchfae yn amlwg ar goll, ac ar un cyfnod credir y byddai ei liw gwyn calchog i'w weld am filltiroedd o'i amgylch. Am gyfnod credid mai perthyn i'r Oes Efydd ydoedd, ond bellach i Oes Newydd y Cerrig a bod dylanwad y Gwyddel arno.

Ogofâu

Un o ogofâu'r Gop

Ceir yn ogystal ogofâu ar lethrau'r Gop lle darganfuwyd olion cynhanesyddol yn cynnwys esgyrn hyaena a gweddillion pobl a gladdwyd yno yn y cyfnod Neolithig, a hynny yn ddefodol, fe ymddengys. Damcanieithir fod yr ogofâu a'r garnedd yn rhan o'r un safle defodol ac felly bod y garnedd yn perthyn i'r Oes Neolithig yn hytrach nag Oes yr Efydd, fel a dybiwyd yn y gorffennol.[5]

Mewn un ogof 43m i'r de-ddwyrain o'r siambr gladdu dargafuwyd esgyrn udfil, bison, ceirw amrywiol, ceffyl a rhinoseros gwlanog. Uwch ben y rhain, a oedd mewn haen o glai llwyd roedd potiau clai, siarcol ac olion coginio. Roedd yno hefyd rhai esgyrn anifail wedi'u llosgi a rhai dynol o dan faeni calchfaen. Yn 1958 tra'n archwilio'r haenau hyn canfyddodd yr archaeolegydd Boyd Dawkins ogof gudd a oedd yn cynnwys 14 ysgerbwd dynol, yn agos at ei gilydd. Roeddent wedi'u gosod yno un ar y tro, gyda phob un ar ei gwrcwd (hy gyda'r pengliniau ger yr ên). Mewn rhan arall o'r ogof gerllaw, canfuwyd 6 ysgerbwd arall. Oherwydd y dolenni cau gwregys arbennig gerllaw gellir eu dyddio i Oes Newydd y Cerrig. Mae dolenni cau, fel y rhain, yn hynod o brin, gyda dim ond 23 wedi'u canfod; maent hefyd yn nodi fod eu perchnogion yn bobl o statws uchel o fewn eu cymdeithas. Ymhlith yr arteffactau eraill yn yr ogof roedd fflint wedi'i gaboli, crochenwaith 'Peterborough', cyllell fflint, pen-saeth, bwyell o Graig Lwyd, Penmaenmawr a gên isaf lyncs. Mae'n ymddangos fod rhai o'r cyrff wedi'u claddu mewn man arall cyn eu cludo yma - ac roedd hyn yn ymarfer eitha cyffredin yn y cyfnod mesolithig.[1]

Gweler hefyd

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Windgather Press; tudalen38-9
  2. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-11-14.
  3. Helen Burnham, A Guide to Ancient and Historic Wales: Clwyd and Powys (Llundain: HMSO, 1995), tt.11-12
  4. Cofrestr Cadw.
  5. Clwyd and Powys, tt. 11-12.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.