Mae olion y diwydiant aur i'w gweld yno tu ôl i'r neuadd pentref. Y mwyngoddfa fwyaf oedd Ffridd Goch a'r chyfadeiladau yng Nghefn Coed. Cynhyrchwyd 80 owns o aur o’r safleoedd hyn rhwng 1896 a 1902. Y tro diwethaf y mwyngloddwyd yn yr ardal oedd rhwng 1919 ac 1922. Roedd hefyd mwynfa fechan Tyddyn Gwladys o tua 1830, a'i weithwyd yn ysbeidiol i gynhyrchu plwm ac aur. Cloddiwyd 43 tunell o fwyn aur, gan gynhyrchu 7 owns o aur yn ei blwyddyn olaf yn 1899.[3]
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.