Roedd Plaid y Democratiaid Cymdeithasol (SDP) yn blaid wleidyddol ganolig yn y Deyrnas Unedig a grëwyd ar 26 Mawrth 1981 ac a oedd yn bodoli tan 1988.
Fe'i sefydlwyd gan bedwar aelod blaenllaw 'cymedrol' o'r Blaid Lafur, a alwyd y Gang o Bedwar: Roy Jenkins, David Owen, Bill Rodgers a Shirley Williams. Ar yr adeg pan gredwyd y blaid roedd Owen a Rodgers yn eistedd fel Aelodau Seneddol Llafur. Roedd Jenkins wedi ymadael â San Steffan ym 1977 i wasanaethu fel Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, tra bod Williams wedi colli ei sedd yn etholiad cyffredinol 1979.
Ymadawodd y pedwar â'r Blaid Lafur o ganlyniad i newidiadau polisi a benderfynwyd yng Nghynhadledd Wembley y Blaid Lafur yn Ionawr 1981 a oedd yn ymrwymo'r blaid i ddiarfogi niwclear unochrog ac i dynnu allan o'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Roeddynt hefyd yn credu bod Llafur wedi gogwyddo gormod i'r adain chwith ac wedi cael ei ymdreiddio ar lefel canghennau etholaethol gan garfanau Trotsgiaidd eu barn ac ymddygiad a oedd yn groes i ddyheadau'r mwyafrif o bleidleiswyr Llafur a'r Blaid Lafur Seneddol.
Ar gyfer Etholiadau Cyffredinol 1983 a 1987 ffurfiwyd cynghrair rhwng y Democratiaid Cymdeithasol a'r Blaid Ryddfrydol a elwid yn Gynghrair Democratiaid Cymdeithasol - Rhyddfrydol.
Ar ôl pleidlais ymysg yr aelodau cefnogwyd cynnig mewn cynhadledd a gynhaliwyd yn Portsmouth ym 1987 i'r blaid uno gyda'r Blaid Ryddfrydol i ffurfio un blaid unedig o'r enw Y Democratiaid Rhyddfrydol
Cyfeiriadau