Gweinidog, bardd, emynydd a golygydd o Gymru oedd William Nantlais Williams, a oedd yn ysgrifennu dan yr enw Nantlais (30 Rhagfyr 1874 – 18 Mehefin 1959). Roedd yn arweinydd blaenllaw yn Niwygiad 1904–1905.
Ganed ef yn Gwyddgrug, gerllaw Pencader, Sir Gaerfyrddin. Gadawodd yr ysgol yn 12 oed i'w brentisio'n wehydd. Dechreuodd bregethu yn 1894, ac aeth i ysgol ramadeg Castell Newydd Emlyn ac yna i Goleg Trefeca i baratoi ar gyfer y weinidogaeth.
Ordeiniwyd ef yn 1901, a bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Rhydaman hyd ei ymddeoliad yn 1944. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Murmuron y nant yn 1898. Bu'n olygydd Yr Efengylydd o 1916 hyd 1933, ac yn olygydd Trysorfa'r Plant o 1934 hyd 1947.
Ymhlith ei emynau y mae: 'Iesu cofia'r plant' ac ef yw awdur y gerdd:
- Tu ôl i'r dorth mae'r blawd
- Tu ôl i'r blawd mae'r felin,
- Tu ôl i'r felin draw ar y bryn
- Mae cae o wenith melyn.
Cyhoeddiadau
- Murmuron y nant (1898)
- Moliant plentyn, rhan I (1920)
- Murmuron newydd (1926)
- Moliant plentyn, rhan II (1927)
- Darlun a chân (1941)
- Clychau'r Gorlan (1942)
- O gopa bryn Nebo (1967)