Gwleidydd Llafur o dde Cymru yw Syr Wayne David (ganed 1 Gorffennaf 1957 ym Mhen-y-bont ar Ogwr). Roedd yn Aelod Seneddol Caerffili rhwng 2001 a 2024. Mae'n aelod blaenllaw o Cyfeillion Llafur Israel.
Yn Chwefror 2022 cyhoeddodd y byddai'n ymddeol fel aelod seneddol pan ddaw'r etholiad nesaf (a gynhaliwyd yng Ngorffennaf 2024).[1]
Ym Mehefin 2024 fe'i urddwyd yn farchog yn rhestr Anrhydeddau'r Brenin.[2]
Cyfeiriadau
Dolen allanol