Walter o Hereford |
---|
Bu farw | 12 g |
---|
Tad | Miles of Gloucester, 1st Earl of Hereford |
---|
Mam | Sibyl de Neufmarché |
---|
Llinach | Gloucester |
---|
Arglwydd Normanaidd Y Fenni oedd Walter o Hereford neu Walter de Hereford (bu farw yn 1159 neu 1160). Cyfeirir ato gan yr hanesydd Eingl-Normanaidd Orderic Vitalis yn ei lyfr yr Historiae Ecclesiasticae.[1]
Etifeddodd Walter rhan o diroedd ei dad, Miles o Gaerloyw, Iarll 1af Henffordd, ond chwalwyd yr etifeddiaeth. Roedd y tiroedd hyn yn cynnwys rhannau o Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd. Gwasgwyd Walter allan o'r tiroedd hynny a daeth yn arglwydd Y Fenni yn 1155. Aeth i ymuno yn y Croesgadau a bu farw ym Mhalesteina yn 1159 neu 1160 heb adael olynydd.[2]
Cafodd ei olynu fel arglwydd Y Fenni gan ei frodyr Henry a Maihel. Lladdwyd Henry mewn ysgarmes â Seisyll ap Dyfnwal a bu farw Maihel trwy ddamwain pan syrthiodd carreg arno wrth i weithwyr atgyweirio ei gastell yn y Bronllys.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977), tud. cxviii.
- ↑ David Walker, The Norman Conquerors (Abertawe, 1977), tud. 71.
- ↑ The Norman Conquerors, tud. 71.