Ganwyd Walter yn y Clas-ar-wy, yn fab i Walter Wilkins a Catherine Eliza Marianna Devereux merch 12fed Is-iarll Henffordd. Roedd yn ŵyr i Walter Wilkins (1741-1828) AS Sir Faesyfed rhwng 1796 a 1828.
Roedd y teulu yn honni eu bod yn disgyn o Robert De Wintona, un o gefnogwyr Robert Fitzhamon, a fu'n gyfrifol am ennill Swydd Gaerloyw a Sir Forgannwg i'r Normaniaid yn y 11g; ac mae llygriad o enw eu hynafiaid oedd Wilkins gan hynny penderfynodd y teulu gwneud cais am drwydded Frenhinol ym 1839 i newid eu henw o Wilkins i De Winton.[2][3]