Wedi ei eni yn Schréttinghausen, bu'n astudio ym Mhrifysgolion Münster a Göttingen, a bu'n gweithio yn arsyllfa Hamburg rhwng 1919 a 1931. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1931 gan wario gweddill ei yrfa yn arsyllfeydd Mount Wilson (1931-58) a Palomar (1948-58). Sigl effaith y blacowt adeg yr Ail Ryfel Byd oedd lleihau llygredd golau trwy'r byd; bu hyn o gymorth i arsylwadau Baade gan ganiatáu iddo ganfod a dosbarthu sêr mewn ffurf newydd a defnyddiol. Llwyddodd i wella gwerthoedd Hubble parthed maint ag oedran y bydysawd. Bu hefyd yn gweithio ar uwchnofâu ac ar radio-sêr. Bu'n athro yn Göttingen o 1959 i 1960[1]