Mae Waliau heddwch Belffast yn waliau rhwng ardaloedd sydd yn y bôn yn genedlgarol ac ardaloedd yn y bôn gweriniaethol. Adeiladwyd waliau tebyg mewn trefi eraill yng Ngogledd Iwerddon, megis y Deri, Portadown a Lurgan.[1]
Mae hyd y waliau’n amrywio, rhai ohonynt milltiroedd o hyd; mae rhai’n cynnwys gatiau, agor yn ystod y dydd ond ar gau gyda nos.
Hanes
Adeiladwyd y waliau cyntaf ym 1969, i fod yn waliau dros dro, ond wedi dod yn ehangach, hirach, ac wedi aros. Mae eu nifer ac uchder wedi cynyddu ers Cytundeb Gwener y Groglith ym 1998.[2] Erbyn hyn mae'r murluniau arnynt yn denu twristiaid i'r ddinas.
Cyhoeddwyd Rhaglen Rhyngwyneb gan Adran Gyfiawnder Gogledd Iwerddon i gael gwared or adeiladwaith rhyngwyneb i gyd erbyn 2023.[3]
Cyfeiriadau