Ffilm Saesneg gan y cyfarwyddwr Miloš Forman a ryddhawyd yn 1989 yw Valmont. Fe'i henwir ar ôl yr Ardalydd Valmont, un o'r ddau brif gymeriad yn y nofel Les Liaisons dangereuses gan Pierre Choderlos de Laclos, ac mae'r ffilm yn addasiad o'r nofel enwog honno. Mae'n serennu Colin Firth (Valmont), Annette Bening (Madame de Merteuil) a Meg Tilly (Madame de Tourvel).