Vaasa |
|
Math | dinas, bwrdeistref y Ffindir |
---|
Enwyd ar ôl | House of Vasa |
---|
|
Poblogaeth | 69,036 |
---|
Sefydlwyd | - 2 Hydref 1606
|
---|
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
---|
Gefeilldref/i | Helsingør, Harstad Municipality, Kiel, Schwerin, Dinas Pärnu, Šumperk, Umeå, Malmö, Morogoro, Olonets, Zhenjiang |
---|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffinneg, Swedeg |
---|
Daearyddiaeth |
---|
Rhan o'r canlynol | Swedish-speaking Ostrobothnia |
---|
Sir | Ostrobothnia |
---|
Gwlad | Y Ffindir |
---|
Arwynebedd | 364.84 km² |
---|
Uwch y môr | 6 metr |
---|
Yn ffinio gyda | Isokyrö, Laihia, Malax, Korsholm, Vörå |
---|
Cyfesurynnau | 63.0958°N 21.6153°E |
---|
Gwleidyddiaeth |
---|
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Vaasa |
---|
|
Sefydlwydwyd gan | Siarl IX o Sweden |
---|
|
|
Dinas a phorthladd yng ngorllewin y Ffindir yw Vaasa (Ffinneg: Vaasa, Swedeg: Vasa) a leolir ar hyd arfordir Gwlff Bothnia. Vaasa yw prifddinas ranbarthol Ostrobothnia. Mae ganddi hanes hir fel porthladd masnachol a marchnad amaethyddol, ac mae'n nodedig heddiw fel canolfan addysg uwch.
Sefydlwyd Vaasa gan Siarl IX, brenin Sweden ym 1606, ac enwir y ddinas ar ôl ei frenhinllin, Tŷ Vasa. Derbyniodd ei siarter ddinesig ym 1611.[1] Datblygodd yn borthladd hynod o bwysig yn y Môr Baltig, a phrif gynhyrchion hanesyddol y ddinas yw coed, haearn, a dur. Yn sgil tân mawr ym 1852, ailadeiladwyd y ddinas 8 km yn agosach i'r môr. O 1855 i 1917, pan oedd Uchel Ddugiaeth y Ffindir dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia, ei henw swyddogol oedd Dinas Niclas (Ffinneg: Nikolainkaupunki, Swedeg: Nikolajstad), ar ôl y Tsar Niclas I. Ffoes llywodraeth y Ffindir o Helsinki i Vaasa yn Ionawr 1918, ac yma felly oedd prifddinas dros dro y Ffindir Wen yn ystod y rhyfel cartref.
Mae Vaasa yn borthladd pwysig o hyd, ac yn mewnforio nifer o ddefnyddiau crai i'r Ffindir. Mae'r diwydiannau lleol yn cynnwys melinau blawd a thecstilau, purfa siwgr, poptai mawr, a ffatrïoedd peiriannau a sebon. Heddiw, dyma canolfan economaidd gryf a chanddi safon byw uchel. Lleolir nifer o gwmnïau mawr yn Vaasa, yn y diwydiannau ynni, technoleg, ac addysg.
Un o brif atyniadau Vaasa yw Ynysfor Kvarken—a chanddi 5,500 o ynysoedd—a ddynodir yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Ymhlith yr atyniadau eraill mae Amgueddfa Ostrobothnia, parc dŵr Tropiclandia, a Chlwb Pêl-droed Wasa. Mae'n gartref i nifer o sefydliadau addysg uwch, gan gynnwys Prifysgol Vaasa, Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Vaasa, a changhennau o Åbo Akademi, Ysgol Economeg Hanken, a Phrifysgol Helsinki.
Dinas ddwyieithog ydy Vaasa, a siaredir y Ffinneg fel iaith gyntaf gan 70% o drigolion a'r Swedeg gan 25%. Cynyddodd y boblogaeth o 56,600 ym 1998[2] i 57,200 yn 2005,[1] ac i 68,000 yn 2023. Vasa ydy dinas 12fed fwyaf y Ffindir yn nhermau poblogaeth.
O ran ei hinsawdd, mae'r haf yn glaear a'r gaeaf yn oer yn Vaasa, a'r tymheredd yn amrywio o -10 gradd Celsiws yn y gaeaf i 20 gradd Celsiws yn yr haf.
Cyfeiriadau