Dinas yn Sweden a phrifddinas Talaith Uppsala yw Uppsala. Hi yw pedwaredd dinas Sweden o ran poblogaeth. Saif 78 km i'r gogledd-orllewin o Stockholm.
Ers 1164, mae Uppsala yn ganolfan eglwysig Sweden, gan ei bod yn sedd Archesgob Eglwys Sweden.
Prifysgol Uppsala, a sefydlwyd yn 1477, yw'r hynaf yng ngwledydd Llychlyn. Ymysg ei myfyrwyr enwog mae Carolus Linnaeus, Dag Hammarskjöld, Anders Celsius a Jöns Jacob Berzelius. Roedd y cyfarwyddwr ffilm Ingmar Bergman yn enedigol o Uppsala.
Enwogion eraill