Tŷ Hywel

Tŷ Hywel
Pont wydr sy'n cysylltu Tŷ Hywel (ch.) a'r Senedd (dde)

Adeilad ym Mae Caerdydd a'i ddefnyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw Tŷ Hywel. Dyma fan cyfarfod wreiddiol y Cynulliad cyn adeiladu'r Senedd yn 2006.

Saif yr adeilad hŷn wrth gefn yr adeilad fwy diweddar ac mae pontydd gwydr yn cysylltu'r naill â'r llall. Codwyd yr adeilad ym 1993 i gynlluniau'r penseiri Holder Mathias Alcock;[1] Tŷ Crughywel oedd ei enw gwreiddiol, ar ôl gwleidydd Geidwadol, yr Arglwydd Crughywel. Yn 2008 fe'i ailenwyd ar ôl Hywel Dda. Agorwyd yr adeilad yn 1993 gyda 11,583 m (38,002 tr) o ardal llawr.

Mae'r adeilad bellach yn cynnwys swyddfeydd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Mae hen siambr y Cynulliad bellach yn cynnal dadleuon gan bobl ifanc ac yn dwyn yr enw Siambr Hywel.

Fe'i henwir ar ôl Hywel Dda, Brenin Cymru yn 10g a lluniwyr cyfreithiau'r Cymru, Cyfreithiau Hywel Dda.

Cyfeiriadau

  1. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 268

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!