Gwarchodir y twyni (neu'r "tywynnau") hyn gan Erthygl 4 o Ddeddf Gwarchod Adar, ac fe'i adnabyddir fel "Ardal Warchodol, Arbennig". Mae'r ardal yn cynnwys yr aber a'r gwlyptir, tywynnau tywod, twyni mwd (mudflats), mawnog, corsydd, sianeli'r afon a nodweddion eraill a'r cwbwl yn agos at bentref bychan Ynyslas.