Mae Top Gun (1986) yn ffilm Americanaidd a gyfarwyddwyd Tony Scott ac a gynhyrchwyd gan Don Simpson a Jerry Bruckheimer mewn cydweithrediad â Paramount Pictures. Ysgrifennwyd yr addasiad ar gyfer y ffilm gan Jim Cash a Jack Epps Jr., yn seiliedig ar erthygl o'r enw "Top Guns" a ysgrifennwyd gan Ehud Yonay i "California Magazine". Mae'r ffilm yn serennu Tom Cruise, Kelly McGillis, Anthony Edwards, Val Kilmer a Tom Skerritt.
Mae'r ffilm yn adrodd hanes is-gapten Pete "Maverick" Mitchell, peilot Morol ifanc sydd â'i olygon ar fod yn beilot brwydro gorau'r Ysgol Arfog Brwydro Morwrol yr Unol Daleithiau, sy'n hyfforddi 1% o'r holl beilotiaid Morol. Caiff Maverick gyfle i fynychu'r ysgol pan mae un peilot yn methu mynd yno, gan ei alluogi ef i hyfforddi gyda goreuon y wlad. Rhyddhawyd y ffilm yn America ar yr 16eg o Fai, 1986 i feirniadaethau clodwiw, gyda'r olygfeydd o'r awyr yn cael eu canmol yn fawr. Gwnaeth y ffilm $350 miliwn yn fyd-eang, gan dorri'r record am werthiant fideos i'r cartref.