Cwmni Cymreig sy’n creu gwirod yw Toffoc. Diod fodca blas toffi yw Toffoc ac mae’n 27.5% o gryfder.[1]
| Enghraifft o: | fodca, busnes |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2005 |
| Pencadlys | Ynys Môn |
| Dynodwyr | |
Cwmni Cymreig sy’n creu gwirod yw Toffoc. Diod fodca blas toffi yw Toffoc ac mae’n 27.5% o gryfder.[1]
Mae’r cwmni wedi ei leoli yn Llanbedrgoch, Ynys Môn, ac wedi ei sefydlu ers 2005 gan Dewi Roberts a Padrig Huws.
Gwerthir y diod hwn mewn siopau lleol ac mae’n cael ei allforio ar draws y byd gyda chanran helaeth o’r cynnyrch yn mynd i Unol Daleithiau America. Gellir ei archebu ar-lein drwy wefan y cwmni.
Ar adeg lansio’r ddiod yn 2004 cafodd ei feirniadu gan y Sefydliad Astudiaethau Alcohol, sy'n ymgyrchu i gynyddu ymwybyddiaeth o effeithiau cymdeithasol ac iechyd alcohol. Roedd y sefydliad yn honni bod Toffoc yn annog pobl ifanc yn eu harddegau i yfed alcohol oherwydd byddai'r siwgr yn cuddio blas y fodca. Yn ôl cyfarwyddwr y sefydliad Andrew McNeill Mae blas alcohol yn rhwystr rhag dechrau yfed yn rhy gynnar. Mae diodydd melys yn pontio'r bwlch i bobl ifanc nad ydynt yn hoffi blas alcohol. Y ddiod hon yw'r union beth nad oes arnom ei angen ar hyn o bryd. Mae gennym argyfwng o oryfed mewn pyliau, a dyma'r criw hwn yn creu diod â blas melys. Bydd un mesur ohono'n eu meddwi. [2]
Er gwaethaf y feirniadaeth gan y Sefydliad Astudiaethau Alcohol mae'r ddiod wedi cael derbyniad wresog gan eraill gan gynnwys y BBC Good Food Show [3] a'r cyn Brif Weinidog Tony Blair.[4]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.