Terry Deary

Mae William Terence Deary (ganwyd 3 Ionawr 1946) yn awdur o Loegr sydd wedi ysgrifennu dros 200 o lyfrau i blant, gan werthu dros 38 miliwn o gopiau mewn 30 a m

Terry Deary
Terry Deary
Ganwyd4 Mawrth 1946 Edit this on Wikidata
Sunderland Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • University of Sunderland
  • Monkwearmouth Academy
  • East Point Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, awdur plant, actor llwyfan, cyfarwyddwr theatr, hanesydd, actor Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.terry-deary.com Edit this on Wikidata

Mae William Terence Deary (ganwyd 3 Ionawr 1946) yn awdur o Loegr sydd wedi ysgrifennu dros 200 o lyfrau i blant, gan werthu dros 38 miliwn o gopiau mewn 30 a mwy o ieithoedd gan gynnwys Cymraeg. Ei waith enwocaf yw’r gyfres Horrible Histories (Hanesion Hyll).[1] Ers 1994, mae Deary ymhlith yr awduron sy’n gwerthu orau ym Mhrydain.[2]

Mae ganddo gysylltiadau â Chymru fel cyn-aelod o Theatr Powys ac awdur Y Celtiaid Cythryblus.

Bywyd a gyrfa

Fe'i ganwyd yn Sunderland.[3] Roedd ei dad yn berchen ar siop cigydd yn, ardal tlawd yn y ddinas, a’i fam, Frida, yn reolwraig siop ddillad.[4] Aeth Deary i Ysgol Ramadeg Monkwearmouth. Roedd yn gas ganddo'r ysgol, yn enwedig dull ei athrawon o ddysgu.

Bu'n helpu ei dad yn siop y cigydd o dair oed. Ymunodd Deary â'r Bwrdd Trydan fel rheolwr dan hyfforddiant ar ôl troi'n ddeunaw.[5] Yn diweddarach, ymunodd â chwmni drama Theatr Powys ym 1972, gan deithio i neuaddau pentref ledled Cymru yn perfformio sioeau plant.

Ymgymhwysodd fel athro yng Ngholeg Addysg Sunderland a chael swydd fel athro drama. Gweithiodd ef yn swydd cyfarwyddwr theatr a cynrychioli Sir Suffolk fel cynghorwr i’r ganolfan theatr rhwng 1975 a 1977. Roedd gan y sefydliad yma cysylltiadau i addysg a chefnogiaeth ariannol gan Sir Cyngor Suffolk. Yn 1976, dechreuodd Deary ysgrifennu ac erbyn 1994 roedd yn awdur llawn amser ac wedi cyhoeddi'r cyntaf o gyfres Horrible Histories.

Mae Horrible Histories yn gyfres ffeithiol-ddychanol sy'n cyflwyno hanes i blant mewn ffordd boblogaidd a doniol. Crëwyd sioe gartŵn yn seiliedig ar y gyfres ar sianel CITV yn 2002. Dechreuodd Horrible Histories, y sioe sgets gyda’r un enw ar CBBC yn 2009.

Yn 2011, ymddeolodd o ysgifennu llyfrau i blant. Mae’n byw yn Burnhope, Swydd Durham, Lloegr gyda’i wraig, Jenny, a’u merch, Sara. Mae’n cefnogi Sunderland A.F.C.

Yn 2025 cyhoeddodd ei nofel drosedd gyntaf, Actually, I'm a Murderer.

Barn am addysg

Mae Deary wedi beirniadu'r system addysg yn aml, gan alw ysgolion yn "syniad Fictoraidd" nad yw'n berthnasol yn yr 21ain ganrif. Honnodd nad oedd wedi dysgu unrhywbeth o werth ar ôl cyrraedd 11 oed.[6] Mae wedi galw am wahardd Horrible Histories o ysgolion rhag iddynt "sbwylio'r holl hwyl".[7]

Yn 2013, beirniadodd Deary lyfrgelloedd cyhoeddus, gan honni fod eu hamser ar ben: "We've got this idea that we've got an entitlement to read books for free, at the expense of authors, publishers and council tax payers [...] If I sold the book I'd get 30p per book. I get six grand, [when] I should be getting £180,000."[8]

Llyfrau dethol

Cyfresi

  • Cyfres Horrible Histories (a gyfieithwyd i'r Gymraeg fel Hanesion Hyll)
  • Truly Terrible Tales

Llyfrau eraill

  • The Ghosts Of Batwing Castle (1988)
  • All about Bede: the life and times of the Venerable Bede, 672 – 735 AD (1996)
  • Spooks (1997)
  • The Hat Trick (addaswyd i'r Gymraeg fel Tair Gôl i Al)
  • Hope Street (1980)
  • Ghost For Sale (2001)
  • The Treasure of Crazy Horse (2001)
  • The Custard Kid (2001)
  • The Wishing Well Ghost (2002)
  • Into The Lion's Den (2002)
  • Footsteps in the Fog (2003)
  • The Boy Who Haunted Himself (2004)
  • The Last Viking (2005)
  • Thirteen Terrifying Tales (2024)
  • A History of Britain in Ten Enemies (2024)
  • Actually, I'm A Murderer (2025)

Dolenni allanol

Cyfeiriada

  1. "Terry Deary". Bloomsbury. Cyrchwyd 6 Mai 2026.
  2. Henley, Jon (2012-07-13). "Terry Deary: The man behind the Horrible Histories". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-05-06.
  3. "Terry Deary Biography". www.terry-deary.com. Cyrchwyd 6 Mai 2026.
  4. "Deary, Terry 1946– | Encyclopedia.com". www.encyclopedia.com. Cyrchwyd 6 Mai 2026.
  5. Carroll, Vicky (16 Chwefror 2018). "Horrible Histories: Durham, death and Terry Deary's dodgy drama". Big Issue (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mai 2026.
  6. "Writing history". The Guardian (yn Saesneg). 2003-08-12. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-07-20.
  7. "Horrible Histories 'not for school' says author". BBC Newsround (yn Saesneg). 2012-04-12. Cyrchwyd 2026-07-20.
  8. Flood, Alison (2013-02-13). "Libraries 'have had their day', says Horrible Histories author". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-05-06.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.