Tegan yw unrhyw beth a ddefnyddir ar gyfer chwarae; yn enwedig eitemau sydd wedi ei gwneud yn arbennig ar gyfer chwarae. Cysylltir teganau yn arbennig â phlant
| Enghraifft o: | categori o gynhyrchion |
|---|---|
| Math | gwaith adloniant, cynnyrch, nwydd diriaethol, offer hamdden |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0138tl |
| Thesawrws y BNCF | 543 |
| Quora | Toys |

Tegan yw unrhyw beth a ddefnyddir ar gyfer chwarae; yn enwedig eitemau sydd wedi ei gwneud yn arbennig ar gyfer chwarae. Cysylltir teganau yn arbennig â phlant ac anifeiliaid anwes, ond gall pobl mewn oed, a hyd yn oed ambell rywogaeth o anifail gwyllt, chwarae â theganau.
Ystyrir chwarae yn ddull pwysig o helpu plant i ddarganfod mwy am y byd a datblygu eu cyneddfau. Cafwyd hyd i deganau ar safleoedd archaeolegol sy'n dyddio o gyfnodau cynnar iawn; er enghraifft o safleoedd Gwareiddiad Dyffryn Indus yn dyddio o 3000-1500 CC. Un o'r teganau cynharaf yw'r ddol, cafwyd hyd i lawer o'r rhain ar safleoedd o'r Hen Aifft, gyda gwallt gosod a brechiau a choesau y gellid eu symud.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.